Hanes Fferm Wynt Mynydd Gorddu

Gellir lawrlwytho fersiwn pdf o'r hanes oddi YMA

Un o'r datblygiadau mwyaf nodedig yn ardal Talybont yn y nawdegau wrth gwrs, oedd fferm wynt Mynydd Gorddu.  Mae nifer o'r tyrbeini i'w gweld yn amlwg o ben y pentre'.  Maent yn olygfa drawiadol, yn enwedig fel y dônt i'r golwg o'r ffordd o Taliesin i Dalybont. 

Amcanion

Breuddwyd y diweddar Dr Dafydd Huws perchennog fferm Mynydd Gorddu ar y pryd oedd y cynllun, gyda'r nod o wireddu nifer o amcanion.  Byddai'r cynllun yn gyfle i'r ardal wneud ei rhan yn lleol i gyfrannu at yr angen am ynni adnewyddol, a'r nod o ddyfodol cynaliadwy.  Byddai hefyd yn ddatganiad ein bod yn newid ein meddylfryd tuag at gynhyrchu a defnyddio ynni.  Os felly, byddai'n bwysig i'r ardal uniaethu gyda'r cynllun a'i fabwysiadu.


Y diweddar Dr Dafydd Huws ar fferm wynt Mynydd Gorddu Dafydd Huws

Yr ail nod oedd cynhyrchu trydan mewn modd effeithlon a fyddai'n gwneud yr ardaloedd i'r gogledd o Aberystwyth yn hunan gynhaliol.  Y trydydd nôd oedd dod a budd economaidd i'r ardal drwy gymorth uniongyrchol i ffermydd y cynllun, sicrhau elfen o gyflogaeth, a thrwy Gronfa Eleri a fyddai'n cael ei noddi gan y prosiect - gwneud cyfraniad blynyddol i hybu bywyd cymdeithasol a diwylliannol yr ardal.  Roedd hybu diwydiant adnewyddol Cymreig hefyd yn nôd bwysig i'r prosiect, ac roedd yn destun balchder fod tyrau’r tyrbeini wedi cael eu cynhyrchu gan gwmni Cymreig Cambrian Engineering ger Bangor.   

Roedd Dafydd Huws eisoes yn frwd dros ynni adnewyddol ac egwyddor cynaladwyaeth.  Gwelai hyn fel swyddogaeth ganolog i wleidyddiaeth flaengar ac i bolisïau Plaid Cymru yn benodol.  Bu'n gadeirydd cenedlaethol y Blaid ac yn ymgeisydd seneddol yng Ngheredigion yn 1979, a rhagflaenydd Cynog Dafis a fu mor gadarn dros ynni adnewyddol a chynaladwyaeth.

Nid fferm wynt o faint yr un sydd ar Mynydd Gorddu heddiw oedd y bwriad gwreiddiol.  Roedd Dafydd  eisoes wedi gwneud ei gartref yng Nghaerffili mor gynaladwy â  phosib, gyda chyfuniad o ynysu, gwresogi solar a thân coed, a'r bwriad gwreiddiol oedd gwresogi tŷ Mynydd Gorddu gyda melin wynt fechan.  Buan y gwelwyd nad oedd hyn yn economaidd, ac mai'r unig bosibilrwydd o ddatblygu ynni gwynt oedd cynllun llawer iawn mwy uchelgeisiol a fyddai'n gwerthu ei drydan i'r grid, ac a fyddai'n gallu cynhyrchu rhwng 5 a 10 megawat (MW) o drydan.  Roedd cost sefydlu fferm wynt ar y pryd tua miliwn o bunnoedd am bob MW, ymhell y tu hwnt i adnoddau datblygwr unigol, ac yn enwedig i un oedd yn gwbl ddibrofiad yn y maes.

Cafodd Dafydd ei ysbrydoli gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen ger Machynlleth, ond ymweliad â Denmarc a’r diwydiant ynni gwynt yno a brofodd yn agoriad llygad iddo ynglŷn â’r posibilrwydd o ddatblygu ynni gwynt yng Nghymru.  Denmarc oedd wedi arloesi ynni gwynt, ac roedd ei ddiwydiant cynhyrchu tyrbeini eisoes yn cyflogi rhai miloedd.  Yn eironig, gennym ni yng Nghymru mae’r gwynt, ond gyda nhw oherwydd eu blaengaredd, mae’r diwydiant -  diwydiant a oedd yn hanfodol ddatganoledig ac yn ddelfrydol ar gyfer economi wledig a dargyfeirio amaethyddol.  Roedd gweld yr hyn a wnaed yn Nenmarc, yn ysbrydoliaeth i fynd ati yn 1990 i ddechrau ar y cynllun.

Mynydd Gorddu
Fferm wynt Mynydd Gorddu o Fwlchygarreg

Paratoadau

Rhaid oedd yn gyntaf mesur y gwynt dros gyfnod o flwyddyn neu ddwy, er mwyn profi bod yr adnodd gwynt yn ddigonol i gyfiawnhau prosiect mor gyfalaf-ddwys mewn marchnad ynni gystadleuol.  Gan fod yr ynni a gynhyrchir yn codi gyda chiwb cyflymdra'r gwynt, mae gwahaniaeth cymharol fechan yng nghyfartaledd y gwynt yn gallu bod yn allweddol i gyllido’r prosiect gan y banciau.

Roedd yn fwriad o'r cychwyn i gynnwys y nifer mwyaf posib o dyrbeini ar y ffermydd oedd yn ffinio â'i gilydd.  Gwahoddwyd pump o ffermydd eraill oedd a'u tiroedd yn cyfarfod ar yr ucheldir i ymuno â Mynydd Gorddu yn y prosiect.  Gwnaed cais cynllunio i Gyngor Ceredigion ar sail hynny yn gynnar yn 1991.

Nid oedd gofynion cais cynllunio mor drylwyr ar ddechrau'r nawdegau ag yn y blynyddoedd olynol, ac nid oedd y pwnc chwaith yn un mor llosg.  Roedd y cynghorau plwy yn gefnogol, ac mewn cyfarfod yn Neuadd Talybont pan esboniwyd y cynllun, ni leisiwyd unrhyw wrthwynebiad.  Roedd cefnogaeth y cynghorwyr sir yn allweddol.  Cafwyd caniatâd cynllunio ym Medi 1991, yn hynod ddidramgwydd o ystyried y gwrthwynebiad a gododd yn ddiweddarach, ac sydd wedi bod i brosiectau tebyg eraill. 

Erbyn hyn roedd y mesuriadau gwynt yn dangos y byddai'r cynllun yn ddichonadwy, ac yn gallu cystadlu yn nhrefniant cystadleuol prynu ynni adnewyddol y llywodraeth.  Roedd dwy broblem sylweddol yn wynebu Cwmni Trydan Gwynt Cyf a sefydlwyd gan Dafydd a Rhian Huws i ddatblygu'r prosiect.  Yn gyntaf, sut oedd cyllido'r costau datblygu hyd at ennill cytundeb gwerthu trydan, ac yn ail, sut oedd perswadio'r banciau i fuddsoddi miliynau o bunnau mewn cwmni bach teuluol heb brofiad yn y maes a phrin ei adnoddau?  Roedd cadw'r cwmni yn lleol ac o dan reolaeth Gymreig yn greiddiol i amcanion y cynllun.  Roedd Dafydd yn anhapus gyda chyfeiriad datblygu trydan  gwynt yng Nghymru lle'r oedd cwmnïau mawr oddi allan yn datblygu ffermydd gwynt - heb ystyried buddiannau'r cymunedau lleol yn flaenoriaeth.  Gellid dadlau fod cryn wirionedd yn yr haeriad: "Maen nhw wedi mynd a'n glo ni a'n dŵr ni, a nawr maen nhw'n mynd a'n gwynt ni."

Ond buan y gwelwyd fod yn rhaid wrth ryw fath o gyfaddawd.  Rhaid oedd darganfod ffordd o ddefnyddio arbenigrwydd y cwmnïau mawr a'u hygrededd ariannol er mwyn datblygu'r prosiect.  Dechreuwyd trafodaethau gyda National Wind Power er mwyn sefydlu math newydd, a hyd hynny unigryw, o bartneriaeth, lle'r oedd y datblygiad yn dal o dan reolaeth cwmni lleol.  Byddai'r cwmni allanol yn ymgymryd â'r agweddau technegol ac yn sicrhau'r cyllid.  Roedd y llywodraeth yn cynnig cytundebau prynu trydan adnewyddol bob rhyw ddwy neu dair blynedd o dan y 'Non Fossil Fuel Obligation'.  Roedd un rownd o'r trefniant yma ar agor i gystadleuaeth rhwng cynhyrchwyr yn 1991.  Cynigid cytundebau pendant am nifer o flynyddoedd am gyfanswm penodol o ynni adnewyddol gan gynnwys ynni gwynt.  Roedd hyn yn angenrheidiol gyda thechnoleg ifanc, i roi cysur i'r banciau y byddai eu cyfalaf yn gallu cael ei ad-dalu.  O dan y cynllun byddai'r llywodraeth yn gwarantu'r pris am nifer penodedig o flynyddoedd.  Ar ôl hynny byddai rhaid i bob prosiect gynnal ei hun ar bris trydan y farchnad agored.  Gan fod y sustem yn gystadleuol, dyfernid cytundebau i'r cwmnïau oedd yn cynnig eu trydan am y prisiau isaf, nes bod y cwota am y rownd honno wedi'i gyrraedd. 

Ennill Cytundeb

Nid oedd y bartneriaeth gyda National Wind Power (NWP) yn un hollol esmwyth, ac nid oedd perthynas ffurfiol wedi'i sefydlu pan aed ati i gynnig am gytundeb trydan i gynllun Mynydd Gorddu.  Roedd Trydan Gwynt yn awyddus i gynnig pris oddeutu 10.7 ceiniog, gyda'r nôd o sicrhau cytundeb trwy dorri'r elw disgwyliedig at yr asgwrn.  Anghytunai NWP a mynnu y gellid cynnig pris o 11.7 ceiniog ar sail eu cred y derbynnid prisiau hyd at 12 ceiniog.  Pan gyhoeddwyd y cynlluniau llwyddiannus ym mis Tachwedd 1991, 11 ceiniog oedd pris uchaf y prosiectau llwyddiannus, a methwyd felly a chael cytundeb gwerthu trydan!  Roedd hyn yn ergyd drom i Trydan Gwynt.  Golygai aros ddwy neu dair blynedd tan y cyfle nesaf, pan fyddai'r gystadleuaeth hyd yn oed yn llymach, a rhaid oedd wynebu blynyddoedd eto o gostau ychwanegol heb unrhyw sicrwydd o ennill cytundeb ar y diwedd.

Wedi'r dadrithiad hwn penderfynwyd wedyn peidio parhau gyda'r ymdrech i ddod i gytundeb gyda NWP, a phenderfynodd Trydan Gwynt, nawr wedi ennill peth profiad, ymgeisio am gytundeb ar ei liwt ei hun.  Erbyn hyn roedd y cytundebau trydan am bymtheg mlynedd a'r pris yn llawer is.  Doedd dim modd gwybod, wrth gwrs, beth fyddai'r pris na beth fyddai cynigion y gystadleuaeth.  Doedd dim amdani ond cynnig y pris isaf posib a fyddai'n caniatáu cadw pen y prosiect uwch ben y dŵr.

O'r 198 cynllun gwynt a ymgeisiodd, dim ond 31 oedd yn llwyddiannus, pob un gyda phrisiau 4.8 ceiniog yr uned neu lai.  Er mawr ryddhad i Trydan Gwynt, roedd cynllun Mynydd Gorddu yn un ohonynt, ond dim ond o drwch blewyn.  Roedd ei gynnig o 4.78 ceiniog yr ail ddrutaf ymhlith y cynlluniau llwyddiannus ac o fewn 1/200fed o geiniog felly i golli'r cytundeb am yr ail waith.  Ar y llaw arall roedd Mynydd Gorddu yn mynd i gael y pris gorau bron yn y gystadleuaeth!  Ac nid lwc oedd hyn.  Roedd yn ganlyniad hefyd i gyngor a chyfarwyddyd amhrisiadwy cyfaill o gyffelyb fryd o Galiffornia.  Roedd Jim Dehlsen, Pennaeth cwmni Zond o Tehachapi, Califfornia, yntau o dras Ddanaidd ac yn arloeswr blaenllaw ynni gwynt yn nhalaith Califfornia.

Enillwyd cytundeb gwerthu trydan felly adeg Nadolig 1994, dros dair blynedd wedi'r siom o fethu'r tro cynta'.  Dim ond nawr y gallwyd mynd ati o ddifrif i geisio ariannu'r cynllun.  Erbyn hyn roedd y cynllun 10 MW yn costio o ddeutu 9 miliwn a'r dasg oedd nid yn unig sicrhau'r cyllid hwn, ond ei sicrhau ar delerau a llog o fewn terfynau a osodwyd gan y pris cychwynnol o 4.78 ceiniog yr uned.  Profodd hyn yn dasg anoddach, fwy cymhleth a drutach hyd yn oed nag a dybiwyd. 

Gwrthwynebwyr

Yn ystod y cyfnod hwn ym 1995 y datblygodd ymgyrch yn erbyn y fferm wynt a fu, er yn aflwyddiannus yn ei nôd o atal y prosiect, yn hynod o lwyddiannus yn ei arafu a'i lesteirio, ac a gafodd yn y pen draw effaith drom.  Bu’n bennaf gyfrifol fod cwmni lleol Cymreig wedi colli rheolaeth ar y datblygiad i’r cwmni mawr allanol National Wind Power.  Nifer fechan iawn oedd y gwrthwynebwyr ond fe gawson lwyfan parod iawn gan y 'Cambrian News.'  Un wraig yn unig, sef Mrs Sue Miller oedd yn byw yng Nghwm Eleri a oedd yn gyfrifol am gynnal ymgyrch mor effeithiol.  Roedd wedi ymroi yn llwyr i wrthwynebu’r prosiect ac yn ymwelydd cyson a'r adran cynllunio yn Aberaeron, ac wedi ymdrwytho ym mhob manylyn o'r ffeil cynllunio. 

Dosbarthwyd taflenni yn yr ardal yn rhybuddio yn erbyn effeithiau niweidiol a thrychinebus y fferm wynt.  Er bod y taflenni hyn yn ddienw, fe'u dosbarthwyd gan grŵp o'r enw CARE (Community Against Rural Exploitation) gyda blwch post yn Aberystwyth.  Mewn gwirionedd, Mrs Sue Miller eto oedd yn arwain yr ymgyrch gyda dyrnaid o'i chyd-wrthwynebwyr.  Rhybuddiai'r taflenni hyn yn chwerthinllyd yn erbyn effeithiau enbyd y tyrbeini.  Byddent yn ymwthiol o swnllyd; yn creu dirgryniadau difrifol, yn creu fflachio a allai achosi epilepsi, yn ymyrryd â theledu, yn brawychu ceffylau ac anifeiliaid fferm.  Petaech yn byw yn agos i'r fferm wynt, byddech yn methu cysgu, a gallech ddatblygu problemau seiciatregol, a'ch gyrru allan o'ch cartref wedi gwerthu eich tŷ ar golled, os o gwbl, oherwydd fyddai neb am fyw'n agos i fferm wynt.  Disgrifiwyd y fferm wynt yn wir fel ymgnawdoliad o'r diafol.    Byddai’r tyrbeini ddwywaith uchder y 'Statue of Liberty' yn Efrog Newydd!  Beth bynnag am yr haeriadau eraill, roedd yr olaf yn or-ddweud amlwg. 

Gwnaed gosodiadau enllibus hefyd yn y taflenni dienw hyn.  Heurwyd fod caniatâd cynllunio wedi'i sicrhau mewn amgylchiadau hynod amheus, ac ensyniwyd fod rhyw ystryw afreolaidd wedi digwydd wrth gael caniatâd i gynyddu maint y tyrbeini.

Newidiadau

I sicrhau y byddai’r prosiect yn economaidd roedd angen newid i dyrbeini mwy nag a fwriadwyd yn wreiddiol (sef o 300kw i 500kw).  Lleihawyd eu nifer o 20 i 19, drwy gynnwys 7 o dyrbeini 600 kW, 43 metr diamedr ar dyrau 34 metr o uchder, yn lle 8 tyrbein 500 kW, 41 metr diamedr ar dyrau 35 metr o uchder, a thrwy hynny gadw'r gallu cynhyrchu yn 10 megawat.

Yr ail newid oedd adleoli'r is-orsaf cysylltu â'r grid mewn adeilad bychan ar dir Bryn Gwyn Mawr yn y fferm wynt ei hun, yn hytrach nag ar y safle gwreiddiol ar dir amaethyddol islaw ger y ffordd gefn heibio Cynnull Mawr.  Yn 1991 cafwyd caniatâd am yr unig fath o is-orsaf oedd yn bosib ar y pryd, sef casgliad hyll o offer a gwifrau trydanol ar safle o hanner maint cwrt tenis wedi'i amgylchynu gan ffens haearn uchel.  Erbyn 1996 roedd yn bosib cywasgu'r holl offer angenrheidiol o fewn un adeilad cymharol fychan, a oedd yn efelychiad o 'sgubor fynydd gyda waliau cerrig a tho llechi a drysau o dderw.  Bwriadwyd iddo adleisio adeilad cyffelyb ar dir cyfagos Penbontpren Uchaf.  Roedd hwn yn welliant amlwg ar y cynllun gwreiddiol, ac nid oedd unrhyw reswm i'w wrthwynebu, ond i'r graddau ei fod yn cynnig un cyfle olaf i’r gwrthwynebwyr i amharu ar y prosiect. 

Cyfarfod safle a phrotest

Cafwyd cyfarfod safle i drafod y gwelliant hwn ar dir Mynydd Gorddu ar ddechrau  Rhagfyr 1996.  Daeth cryn dyrfa i'r cyfarfod gan gynnwys nifer dda o gefnogwyr yn ogystal â gwrthwynebwyr.  Yn wir dyma'r cyfle cyntaf a gafodd y cnewyllyn gwrthwynebwyr a'u harweinydd, i ddod wyneb yn wyneb â'r datblygwr a'r arch-ddihiryn yn eu golwg nhw - Dafydd Huws. 

Gan fod hwn yn is-bwyllgor safle o bwyllgor cynllunio cyngor Ceredigion roedd offer cyfieithu ar y pryd ar gael, a dewisodd Dafydd yn ddigon naturiol ar ei dir ei hun i siarad yn Gymraeg.  Ymosodwyd arno'n chwyrn gan un wraig a'i gŵr a oedd wedi dod i fyw i bentre’ Salem gerllaw, am ei fod wedi bod mor haerllug â siarad yn Gymraeg!  Cofnodwyd yr ymosodiad hwn, a oedd mewn iaith gyhyrog, gan gamerâu HTV a oedd yn bresennol, ac fe'u dangoswyd fel un o uchafbwyntiau rhaglen 'Y Byd ar Bedwar' yn fuan wedyn.

Er bod y protestwyr wedi ceisio troi'r cyfarfod yn drafodaeth ar holl ddilysrwydd y cynllun gwynt, cyfarfod oedd hwn yn unig i drafod addasiad yr is-orsaf, ac fe gadarnhawyd y newid gan y cyngor yn Rhagfyr 1996. 

Ni wnaeth y rhaglen deledu les i'r protestwyr chwaith oherwydd enynnodd don o gefnogaeth i Dafydd, ac oherwydd cyfarfod a drodd yn annisgwyl yn safiad dros yr Iaith, datganwyd cefnogaeth i'r cynllun o bell ac agos gan rai nad oedd cynt yn frwd o gwbl dros felinau gwynt!  Cyfansoddodd Dewi Richards, Cerrig Mawr, un o drigolion ffraeth Cwm Eleri a oedd wedi dod i'r cyfarfod, nifer o englynion cefnogol a oedd  efallai, yn dangos y gwahaniaeth rhwng agwedd hen ŷd y wlad, ac agwedd y prif wrthwynebwyr a oedd yn fewnfudwyr i'r ardal.  Cyfeiria'r trydydd englyn at y rhain a'u hymddygiad yn y cyfarfod cynllunio.  Cyfeiria 'uchelder Cwm Deri' at y ffaith fod Mynydd Gorddu am flynyddoedd i'w weld yn feunyddiol ar ddechrau rhaglen 'Pobol y Cwm'. 

    Ar uchelder 'Cwm Deri' - urdd lwyfan
             A hardd lafnau arni.
    Gri annedd yn creu ynni
    O'r afiach fydd iach i ni.

    Da gosgordd Mynydd Gorddu - melinoedd
             Hardd y moelni arni.
    Llafnau unedau ynni
    Golau cawn o sŵn ei si.

    O dros glawdd daeth tras a'i gledd - a salw
             Oedd seiliau ei sylwedd
     A dolef ei dialedd
     Colledig oedd llid eu gwedd.

     Gwreiddiau dy achau dedwydd - o'r cwm da
             Gwir gymydog ffermydd.
     Hwn rhannodd o'i rodd yn rhydd,
     Un mwyn a'i wraidd o’r mynydd.

Arolwg Barnwrol

Ond y gwrthwynebwyr a gafodd y gair olaf drwy wneud cais am arolwg barnwrol o'r dull roedd y cyngor wedi gweithredu.  Gwnaed cais am gymorth cyfreithiol yn enw Mrs McKeown o Salem, mae'n debyg am fod ei hincwm yn ddigon isel iddi fedru hawlio'r cymorth cyfreithiol hwn.  Rhaid oedd i Gyngor Ceredigion hefyd fynd i drafferth a chostau sylweddol iawn i baratoi ei amddiffyniad.  Y broblem i'r prosiect oedd bod y gwrandawiad wedi'i bennu ar gyfer mis Mehefin 1997, a oedd yn golygu chwe mis ychwanegol o oedi costus, a oedd i brofi'n eithriadol niweidiol i'r cynllun.        Yn y gwrandawiad gwrthododd y barnwr y cais bron yn syth ar y sail mai ymgais oedd hwn i wyrdroi cais cynllunio dilys blaenorol, gan ddatgan nad oedd hyn yn fater cymwys i arolwg barnwrol.  Ond yr oedi hwn oedd yr hoelen olaf a achosodd colli’r prosiect o afael cwmni lleol Cymreig.

Achub y cynllun

Erbyn hyn roedd dwy flynedd a hanner wedi mynd heibio ers ennill y cytundeb cyflenwi trydan, gydag ymgyrch y gwrthwynebwyr yn bennaf gyfrifol am yr oedi.   Roedd yr oedi costus yn ei wneud yn gynyddol anoddach i’w ariannu, ac yn tanseilio amcanion cymdeithasol y prosiect.  Petai'r cynllun wedi'i adeiladu mewn pryd yn ystod 1995, a heb y costau a achoswyd gan y gwrthwynebiad, byddai £25,000 wedi bod ar gael yn flynyddol i Gronfa Eleri.  Erbyn Hydref 1997 fodd bynnag, roedd yn edrych yn ddu am nemor ddim arian i Gronfa Eleri.

Roedd Hydref 1997 yn amser pryderus iawn i Trydan Gwynt oherwydd roedd y banciau'n gynyddol nerfus, a'u prosesau asesu yn mynd yn fwy hirwyntog.  Doedd dim amdani felly ond ceisio ariannu'r prosiect heb orfod dibynnu ar fanciau.  Yr unig ffordd i wneud hyn oedd mynd yn ôl at un o'r cwmnïau mawrion a allai ariannu'r cynllun o'u hadnoddau mewnol.  A dyna ddigwyddodd.  Ym mis Hydref 1997 doedd gan Trydan Gwynt ddim dewis ond llyncu balchder a gofyn i National Wind Power a fydden nhw'n ystyried dod yn ôl fel partneriaid i adeiladu'r cynllun, a hynny ar frys.

Ar un olwg roedd hwn yn brofiad chwerw i Trydan Gwynt, oherwydd golygai fod y frwydr i gadw'r prosiect o fewn perchnogaeth cwmni lleol Cymreig wedi'i golli.  O hyn ymlaen cynllun cydweithredol fyddai Mynydd Gorddu rhwng National Wind Power ac Amgen, cwmni newydd Dafydd a Rhian Huws, a'r ddau gwmni'n fuddsoddwyr yn Trydan Gwynt Cyf.  Ar y llaw arall, roedd yn rhyddhad anferthol fod National Wind Power yn fodlon dod 'nôl i mewn o gwbl, ac ar rybudd mor fyr i achub y prosiect.   Logo Amgen, wedi'r cyfan, fyddai ar y tyrbeini, a chyn bwysiced â dim, sicrhawyd yn y cytundeb y byddai Cronfa Eleri yn cael ei adfer i £10,000 y flwyddyn.

Aed ati fel lladd nadredd o fewn diwrnodau i arwyddo'r cytundeb i gychwyn adeiladu'r prosiect ar y pum fferm sydd yn y cynllun sef ffermydd Bwlch-y-Ddwyallt, Cynnull Mawr, Bryngwyn Mawr, Ffynnon Wared a Mynydd Gorddu.  Llwyddwyd i gael y deuddeg tyrbein cyntaf ar eu traed erbyn Nadolig 1997.  Cwblhawyd yr adeiladu yn ystod tri mis cyntaf 1998, a dechreuwyd gwerthu trydan i'r grid canol Ebrill 1998. 

Cyrraedd y nôd

Melinau a Defaid


Bu tyrbeini Mynydd Gorddu yn hynod gynhyrchiol ers eu comisiynu.  Y gobaith ar sail darogan y gwynt, oedd cynhyrchu rhwng 24 a 26 miliwn awr cilowat y flwyddyn.  Ond yn y ddwy flynedd gyntaf gwerthwyd dros 30 miliwn awr cilowat y flwyddyn i'r grid.  Mae hyn yn cynrychioli mwy o drydan nag a ddefnyddir yn yr holl ardal rhwng Aberystwyth a Machynlleth.  Gellid dweud felly fod pawb sy'n medru gweld y tyrbeini, ar gyfartaledd, yn cael eu holl drydan oddi wrthynt.

Mae Cronfa Eleri wedi bod yn llwyddiannus iawn hefyd.  Sefydlwyd pwyllgor i wneud argymhellion i gwmni Amgen ynglŷn â dosrannu'r £10,000 blynyddol (yn codi gyda graddfa chwyddiant) a delir i'r gronfa, a rhwng 1998 a 2009 rhoddwyd cymorth ariannol o dros £140,000 i 166 o gynlluniau lleol.  (Gweler Hanes Cronfa Eleri).

Asesiad

Erbyn hyn daeth yn bosib i dafoli effaith y fferm wynt ar yr ardal, ac yn enwedig ar Dal-y-bont a Chwm Eleri.  Tra bod y cynnyrch trydan y tu hwnt i'r disgwyl beth oedd y pris a oedd wedi'i dalu?  Ac yn arbennig, a wireddwyd ofnau a rhybuddion dychrynllyd y gwrthwynebwyr? 

Roedd y posibilrwydd o ymyrraeth derbyniad teledu wedi'i ragweld, a chomisiynwyd arolwg gan y BBC o flaen llaw, a oedd yn ei gwneud yn bosib i leoli'n union y cartrefi yng Nghwm Eleri a fyddai'n debyg o gael eu heffeithio.  Digwyddai cartref y prif brotestwraig fod yn un ohonynt.  Gynt, dibynnai nifer o'r cartrefi hyn ar sustem aerial breifat amatur.  Er nad oedd y tyrbeini’n amharu ar dderbyniad radio a theledu,  penderfynwyd darparu sustem drosglwyddo newydd sbon (ar gost o filoedd i’r cwmni), fyddai'n rhoi derbyniad i'r cwm am y tro cyntaf.  Yr eironi mawr ydy mai Mrs Miller a fanteisiodd fwyaf allan o hyn, gan fod adroddiad y BBC wedi cadarnhau cyn hynny fod y rhan yma o Gwm Eleri yn ddi-wasanaeth (“unserved”) ar gyfer radio a theledu.

Rhybuddiwyd y byddai sŵn y tyrbeini yn annioddefol ac y byddai dirgryniadau yn treiddio trwy ffenestri dwbl hyd yn oed.  Ond bu'r tyrbeini yn hynod dawel yn enwedig o ystyried maint y cynnyrch sy'n dod ohonynt.  Gall tyrbeini gynhyrchu sŵn tonau pur sy'n deillio o'r blwch ger ac sydd yn gallu treiddio cryn bellter, ac yn gallu bod yn annifyr i'r glust.  Mae tyrbeini Mynydd Gorddu yn eithriadol o dawel o'r safbwynt hwn hefyd ac yn gyfforddus o fewn y terfynau a bennwyd yn y caniatâd cynllunio.  Er hyn ystyriwyd fod lle i wella er mwyn cyrraedd y safon uchaf cyfoes a osodir nawr gan y diwydiant, a gwnaed llawer o waith addasu ar y tyrbeini.  Er bod y tyrbeini'n glywadwy dros gryn bellter dan rai amodau gwynt, credir nad yw sŵn o dyrbeini Mynydd Gorddu yn dramgwydd i'r trigolion lleol. 

Rhybuddiwyd hefyd y byddai'r tyrbeini'n dychryn anifeiliaid fferm - ond mae'r gwartheg a'r defaid o'u hamgylch yn eu hanwybyddu'n llwyr, ac yn wir, yn defnyddio'r tyrau i gysgodi o'r haul a'r gwynt.

Rhybuddiwyd hefyd gan y gwrthwynebwyr y byddai'r fferm wynt yn amharu ar fywyd gwyllt ac ar adar yn arbennig.  Ond yn ystod y gaeaf cyntaf ar ôl adeiladu'r tyrbeini cynyddodd y nifer o elyrch gwyllt a ddeuai'n flynyddol o'r Arctic i'r llyn ar Warchodfa Natur Mynydd Gorddu (sy'n agos i'r tyrbeini), o'r ddau a welwyd yn flynyddol i dros ddeg.  Tra'r oedd y barcud wedi dechrau cynyddu yn yr ardal, ac roedd yn gyffredin i weld mwy nac un yn hofran dros y bencydd, mae'r niferoedd wedi cynyddu ers adeiladu'r fferm wynt.  Erbyn hyn mae posib gweld nifer gyda’i gilydd yn hedfan ymhlith y tyrbeini, ac er syndod mae brain wedi adeiladu nythod ar y ‘gantries’ sef y llwyfannau mynediad i waelod y tyrau.  Tra nad yw hyn, wrth gwrs, yn profi fod tyrbeini yn denu adar, mae efallai yn awgrymu nad ydynt yn eu poeni o gwbl!

Felly mae'n ymddangos mai dim ond un pris sydd i'w dalu am fferm wynt Mynydd Gorddu sef y pris gweledol.  Mae effaith gweledol y tyrbeini yn ddiamheuol a rhaid cydnabod gall hyn fod yn boen i'r rhai sy'n eu hystyried yn anaddas ar y tirwedd.  Ond ni chafwyd tystiolaeth fod golwg y tyrbeini yn broblem erbyn hyn.  Os mai'r un yw'r profiad yma ag yn ardaloedd ffermydd gwynt eraill lle gwnaed arolwg, mae'n lled debyg fod mwyafrif llethol y trigolion wedi hen dderbyn y tyrbeini fel rhan o'r tirwedd.

Rhaid gosod y pris gweledol wrth gwrs yn erbyn llwyddiannau a manteision y prosiect.  Mae cynnyrch trydan cynaliadwy wedi bod y tu hwnt i'r disgwyl.  Mae'r canran misol o'r gwerthiant trydan a delir i'r pum fferm sydd yn y prosiect yn werthfawr iawn, yn enwedig ar adeg a fu’n gynyddol anodd i amaethyddiaeth.  Mae Cronfa Eleri wedi bod yn llwyddiant er yn llai o werth nag y gallai fod wedi bod heb y gwrthwynebwyr, ac mae elfen gyson o gyflogaeth i gynnal y tyrbeini.

Yr is-orsaf, lle gellir gweld y cyfrifiadur Isorsaf

I lawer mae’r tyrbeini yn ddiddorol a difyr ac yn destun chwilfrydedd.   Ategir hyn gan y cynnydd a fu yn nifer y cerddwyr hyd y llwybrau cyhoeddus sy'n croesi'r safle.  Ac i gyfarfod â'r angen hwn gyda Chyngor Ceredigion a than gynllun amaeth amgylcheddol Tir Gofal, fe osodwyd giatiau a chamfeydd a chrëwyd llwybrau troed  newydd er mwyn hwyluso ymwelwyr.  Mae ysgolion a sefydliadau addysgol yn ymwelwyr cyson â'r tyrbeini.  Mae Cwmni Amgen yn noddi ymweliadau gan ysgolion.  Mae sgrin cyfrifiadur yn weladwy drwy ffenestr yn wal yr is-orsaf at bwrpas addysgol.  Mae hwn yn cysylltu'n uniongyrchol a'r sustem gyfrifiadurol sy'n rhedeg y tyrbeini, ac yn dangos cynnyrch cyfredol a chronnol y tyrbeini, a data eraill e.e. mesur o'r arbediad o danwydd ffosil a geid.

Diweddglo

Mae fferm wynt Mynydd Gorddu wedi bod yn llwyddiant mawr, a’i brif amcanion wedi'i wireddu, ac ni wireddwyd unrhyw un o rybuddion chwerthinllyd y protestwyr am ei effeithiau enbyd.

Yr hyn sy'n syndod efallai yw bod ffermydd gwynt yn destun y fath emosiwn ac yn ennyn y fath wrthwynebiad.  Nid ydynt, wedi'r cyfan, yn golygu newid parhaol i'r dirwedd, oherwydd gellir eu tynnu i lawr ar ddiwedd eu hoes heb ddim o'u hôl.  Mae'r sefyllfa'n wahanol iawn yng ngwledydd eraill Ewrop lle mae mwy o gydnabyddiaeth efallai o'r angen am ynni adnewyddol.

Mae’n eithaf tebyg petai prosiectau gwynt yng Nghymru yn ddatblygiadau cymunedol gyda budd y gymuned leol yn flaenoriaeth byddent yn llawer mwy derbyniol.  Efallai am fod tyrbeini Mynydd Gorddu mewn safle delfrydol ar ôl deuddeng mlynedd o gynhyrchu trydan effeithlon gyda’r manteision a ddaeth yn eu sgil, eu bod wedi cael eu derbyn mor llwyr gan drigolion yr ardal. 

                 Fferm o'r ffordd

  Diweddarwyd gan y gwefeistr: 18-11-2012
Cronfa EleriFfeithiau Hanes Cysylltu