Gwneud Cais am gymorth gan Gronfa Eleri

Ystyrir ceisiadau am gymorth gan Gronfa Eleri tuag at ddiwedd pob blwyddyn calendr. Cyhoeddir y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau (fel arfer, tua canol Ionawr bob blwyddyn) mewn hysbyseb – ym mis Rhagfyr – yn y papurau bro lleol, Papur Pawb a'r Tincer.

Os ydych am wneud cais am gymorth ariannol gan Gronfa Eleri ystyriwch yr amodau canlynol:

  • A fyddai'r cynllun yn gweithredu yn yr ardal a ddiffinir yn fras fel yr un sy'n angylchynnu fferm wynt Mynydd Gorddu?
  • A fyddai'r cynllun yn berthnasol i amcanion Y Gronfa, sef cefnogi: “Hybu bywyd cymdeithasol, addysgol a diwyllianol cynhenid yr ardal sydd wedi ei chanoli ar Mynydd Gorddu.”?
  • A ydych yn fodlon cydymffurfio â Rheolau Cronfa Eleri?

Os ydych yn cytuno â'r amodau, ac am wneud cais, unai lawrlwythwch y ffurflen briodol ar un o'r dolennau isod (ddim ond ar gael o ganol Tachwedd tan ganol Ionawr) neu cysylltwch â Ysgrifennydd Cronfa Eleri i ofyn am gopi o'r ffurflen. Rhaid defnyddio'r ffurflen swyddogol. Gellir danfon cais i fewn unai ar ffurf electronig (sef gyrru'r ffeil MS Word isod, ar ôl ei llenwi, i'r ysgrifennydd ar e-bost neu ar bapur).

Mae Cronfa Eleri yn awr ar gau i geisiadau. Maint y gronfa eleni oedd £25,642.96. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau oedd 13eg o Ionawr 2024 ac ni ystyriwyd unrhyw gais a ddaeth i law wedi'r dyddiad hwnnw.

Ffurflen gais ar ffurf pdf, i'w hargraffu ar gyfer ei llenwi mewn llawysgrifen du ar gael YMA*
(*Dim ond yn ystod y cyfnod rhwng canol Tachwedd a dechrau Ionawr mae'r ffurflen hon ar gael)
Gellir cyflwyno hon unai at bapur neu drwy e-bost (cyfeiriad isod)

Ffurflen gais ar gyfer ei llenwi ar gyfrifiadur gan ddefnyddio Microsoft Word ar gael YMA**
(**Dim ond yn ystod y cyfnod rhwng canol Tachwedd a dechrau Ionawr mae'r ffurflen hon ar gael)

Gellir cyflwyno hon unai at bapur neu drwy e-bost (cyfeiriad isod)

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at yr Ysgrifennydd, drwy e-bost (ymholiadau@cronfaeleri.com).

Ymholiadau: ymholiadau@cronfaeleri.com
Diweddarwyd gan y gwefeistr: 22-01-2024


Hafan Cysylltu Hanes y Gronfa Rheolau'r Gronfa Gwneud cais am gymorth